Cefnogi Elusennau
Mae BT yn cydweithio â phartneriaid elusennol i ddefnyddio grym technoleg er gwella bywydau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt - gyda chymorth gwirfoddolwyr o bob rhan o’r busnes. Rydym wedi defnyddio ein technoleg ac arbenigedd er mwyn helpu i gynhyrchu dros £700m ar gyfer achosion da ers 2012/13, a £55m yn 2019/20. Gweithwyr BT sy’n arwain, gan gyfrannu dros £13.5m drwy’r gyflogres dros y pum mlynedd diwethaf, gyda chyfraniad BT yn codi’r swm i dros £17.5m. Yn 2019/20 cefnogwyd 1,400 elusen unigol gyda BT yn ennill National Payroll Giving Excellence Award am gynllun mwyaf cynaladwy 2019.
Mae’r Clwb Cefnogwyr wedi ariannu 61 project ar draws y Deyrnas Unedig wrth neilltuo swm gwerth £7,476,791. Amcangyfrifwyd bod 130,162 o bobl yn y DU wedi elwa o’r cymorth, gyda 93,131 ychwanegol wedi elwa’n uniongyrchol yn cynnwys gweithwyr llinell flaen. Mae projectau blwyddyn chwech y rhaglen yn cynnwys atal trais, addysg, iechyd meddwl/digartrefedd, cynhwysiad anabledd, cyfiawnder rhyw ac LGBTQ+. Y llynedd cefnogwyd projectau gwerth £1,960,390.
Yn ogystal, sefydlwyd oddeutu 715 gwefan ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol Cymreig wrth ddefnyddio ein pecyn cymunedol am ddim, oedd yn werth £35,750 ar sail nwyddau mewn cynnyrch.
Gwirfoddoli
Mae pawb yn BT yn gallu neilltuo hyd at dri diwrnod gwaith y flwyddyn er mwyn gwirfoddoli. Y llynedd roedd 15% o’n gweithwyr wedi gwirfoddoli amser ac arbenigedd - profiad gwerthfawr i’r bobl yn elwa ynghyd â’r gwirfoddolwyr eu hunain. Roedd ein gwirfoddolwyr wedi cefnogi amrediad eang o brojectau elusennol a chymunedol wrth godi arian ar gyfer achosion da, trefnu casgliadau ar gyfer banciau bwyd mewn adeiladau BT ar gyfer The Trussell Trust, cynnal gweithdai i gyflwyno athrawon i adnoddau Barefoot a chefnogi mentrau sgiliau digidol eraill megis TeenTech. Ar ben hynny, neilltuodd ein gweithwyr amser eu hunain i wneud gwaith gwirfoddol. Yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020, fe wnaeth oddeutu 1,360 gwirfoddolwr 1,258 diwrnod o waith gwirfoddol, oedd yn werth bron £200,000 mewn nwyddau mewn cynnyrch.